Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2019
Amser: 09.20 - 10.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5769
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Joyce Watson AC (yn lle Lynne Neagle AC) David Rees AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Frances Duffy, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Sarah Tyler, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) lowri Jones (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Helen Mary Jones AC a Lynne Neagle AC. Dirprwyodd Joyce Watson AC ar ran Lynne Neagle AC.
2.1 O dan reol sefydlog 17.24A, datganodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fuddiant fel meddyg teulu sydd wedi talu indemniad meddygol yn y gorffennol tra’n gweithio fel meddyg.
2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, trafododd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil, a’u gwaredu:
Gwelliant 1 (Angela Burns): cafodd y gwelliant hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor.
Gwelliant 2 (Angela Burns): cafodd y gwelliant hwn ei dynnu yn ôl, gyda chytundeb y Pwyllgor.
2.2 Cadarnhaodd y Cadeirydd y bernir bod holl adrannau’r Bil a’r holl atodlenni iddo wedi cael eu cytuno. Yn sgil hynny, mae trafodion Cyfnod 2 wedi'u cwblhau.
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Trafododd y Pwyllgor drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a chytunodd arni. Bydd trefn y drafodaeth yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we'r Bil.
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu mewn perthynas â’r gwaith dilynol sydd i'w wneud yn y maes hwn, a chytunodd arno.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i flaenoriaethu dau ymchwiliad i'w hystyried - ymchwiliad i leoliadau cleifion mewnol CAMHS y tu allan i'r ardal, ac ymchwiliad i ryddhau cleifion o'r ysbyty. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar nifer o ddarnau byrrach eraill o waith. Caiff y manylion eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn.